Cynhyrchwyd y gerdd a’r ffilm yma gan y bardd perfformio Rufus Mufasa yn rhan o gyfnod Ymchwil a Datblygu’r Prosiect ISLIFAU – Ar Ein Rhiniog.
Bu Rufus yn chwilio ac yn datblygu ymyriad mwy hirdymor yn y celfyddydau, sy’n torri tir newydd ac a fydd yn creu cyfleoedd i bobl ymhél â’r celfyddydau a diwylliant yn y Gymraeg a thrwy’r Gymraeg ac a fydd yn gynaliadwy drwy ymgysylltu, mentora a chydnabod anghenion a chyfraniad creadigol artistiaid ac ymarferwyr creadigol lleol, Cymraeg eu hiaith. Ymchwiliodd Rufus i’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal (gan gynnwys y Wenhwyseg sydd agos â bod yn ddiflanedig ac enwau lleoedd traddodiadol) a sgwrsio’n greadigol ag unigolion, cyrff a grwpiau lleol, Cymraeg eu hiaith. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu ag Oriel Graig y Fedw, oriel a sefydlwyd gan yr artistiaid Cymraeg eu hiaith, Fflur Angharad a Garmon Gruffydd, yn eu gardd yn Abertridwr a chanddi’n ethos y dylai celfyddyd fod yn rhan o fywydau pob dydd pobl, a Menter Iaith Caerffili sy’n awyddus i gefnogi gwaith sy’n cymell defnyddio’r Gymraeg yn y cwm. Ar y cyd ag Oriel Graig y Fedw a thrigolion eraill, mae Rufus yn gobeithio creu man diogel i rieni a’u plant ailgysylltu â chwarae, creadigedd, stori a defnyddio’r Gymraeg drwy gyfres o weithgareddau/ymyriadau parhaol, sy’n arbennig o bwysig o gofio mai ym mlynyddoedd bore oes y sefydlir traddodiadau llafar a sylfeini iaith, drwy berthynas deuluol a chymunedol. Gewch chi wybod rhagor am gasgliadau Rufus yma.
Prosiect ar y cyd ydi ISLIFAU – Ar Ein Rhiniog, rhwng Islifau – grŵp cymuned y Celfyddydau yng Nghwm Aber, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac Addo. Cyllidir y prosiect gan gronfa grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn datblygu cynigion cydweithredol rhwng cyrff, unigolion a phobl broffesiynol greadigol. Rhoddwyd cyllid dros ben a chefnogaeth mewn da yn garedig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Rhwydwaith Lles Integredig Gwent.
_______________________________________________
This poem and film have been produced by performance poet Rufus Mufasa as part of the Research & Development Phase of the UNDERCURRENTS - On Our Doorstep Project.
Rufus has been exploring and developing a longer-term innovative art intervention that will create opportunities for people to engage with arts and culture in and through the Welsh language and will be sustainable by engaging, mentoring and acknowledging the needs and creative input of local Welsh-speaking artists and creative practitioners. Rufus has researched the use of Welsh Language in the area (including the all but lost Gwentian dialect and traditional place names) and held creative conversations with local Welsh-speaking individuals, organisations and groups. This has included connecting with Oriel Graig y Fedw, a gallery set up by Welsh-speaking artists Fflur Angharad & Garmon Gruffydd in their garden in Abertridwr with the ethos that art should be part of people’s everyday lives, and Menter Iaith Caerphilly, who are keen to support work encouraging the use of Welsh in the valley. Collaborating with Oriel Graig y Fedw and other residents, Rufus hopes to create a safe space for parents & their children to reconnect with play, creativity, story and the use of Welsh through a series of ongoing activities/interventions, which is especially important given that oral traditions and foundations for language are established in our early years through familial and community relationships.
UNDERCURRENTS – On Our Doorstep is a partnership project between Undercurrents – Arts in the Aber Valley community group, Caerphilly County Borough Council and Addo. The project is funded by an Arts Council of Wales’ Connect & Flourish grant fund for the development of collaborative proposals between organisations, individuals and creative professionals. Additional funding and in-kind support have been kindly given by Caerphilly County Borough Council and the Integrated Wellbeing Network Gwent.